Carcharu dyn am geisio treisio pensiynwraig

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 69 oed o Aberdaugleddau wedi ei garcharu am saith mlynedd am geisio treisio pensiynwraig yn y dref bron 18 mlynedd yn ôl.

Fe gafodd Andrew James Rimmer ei arestio ar Dachwedd 28 ac roedd gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.

Clywodd y llys fod yr ymosodiad ym mis Chwefror 1994 pan oedd y fenyw yn 69 oed a'i bod hi wedi marw ers yr ymosodiad.

Adeg yr ymosodiad, roedd hi'n fyddar a bron yn ddall.

Clywodd y llys fod Rimmer wedi ei gyfweld yn fuan wedi'r ymosodiad wrth i'r heddlu ymchwilio o dŷ i dŷ, ond roedd yn "hyderus ac yn argyhoeddiadol" wrth wadu ei fod yn gwybod unrhyw beth am y trosedd.

Ond fe wnaeth yr heddlu ystyried y trosedd o'r newydd yn 2011 gyda chymorth y dechnoleg DNA ddiweddaraf.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Rydyn ni'n adolygu ac yn ymchwilio i droseddau nad ydyn nhw wedi eu datrys er mwyn sicrhau cyfiawnder i'r dioddefwyr a'u teuluoedd."