Canolfan hamdden newydd i Lanelli?

  • Cyhoeddwyd
Canolfan hamdden LlanelliFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Dywed y cyngor fod y ganolfan hamdden bresennol mewn cyflwr gwael

Mae posibilrwydd y bydd canolfan hamdden yn cael ei hadeiladu yn agos i lwybr yr arfordir yn Llanelli.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru yn talu am astudiaeth i'r posibilrwydd o ddatblygu hen safle diwydianol 'y Castle Works'

Y bwriad gwreiddiol oedd codi theatr a chanolfan y celfyddydau newydd ar y safle.

Ond mae'r adeiladau yna nawr yn rhan o gynllun ailddatblygu canol y dref.

Dywed y cyngor fod y ganolfan hamdden bresennol mewn cyflwr gwael a bod y gost o gynnal a chadw'r adeilad yn cynyddu.

'Partneriaid posib'

Mae'r cynllun arfaethedig yn cynnwys canolfan hamdden, academi chwaraeon, a llain bowlio 10.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae'r ganolfan hamdden bresennol mewn cyflwr gwael iawn ac mae'r gost o'i chynnal a chadw yn cynyddu.

"Byddai'r cynllun yn cael ei ddatblygu'n raddol pan fyddai arian ar gael a phan fyddai partneriaid posib yn dangos diddordeb ynddo."

Mae disgwyl i ganlyniadau'r astudiaeth dichonoldeb gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol