Damwain rhwng dau gar a thractor
- Cyhoeddwyd

Mae parafeddygon yn dal i roi triniaeth i fenyw ger safle'r ddamwain
Mae dyn wedi ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd yn dilyn damwain ffordd ger Pwllheli ddydd Gwener.
Dywed y gwasanaethau brys fod ffordd yr A499 ar gau i'r ddau gyfeiriad ger Pwllheli rhwng ffordd yr A497 a ffordd y B4413 yn Llanbedrog.
Mae'n ymddangos bod dau gar a thractor wedi taro yn erbyn ei gilydd.
Mae parafeddygon yn dal i roi triniaeth i fenyw ger safle'r ddamwain.
Nid yw'n glir pa mor ddifrifol yw eu hanafiadau ar hyn o bryd ond y gred yw nad ydynt yn peryglu eu bywydau.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol