Cipio gynnau criw tancer olew yn Aberdaugleddau

Y gynnau a gafodd eu meddiannu gan swyddogion Llu'r Ffiniau Image copyright Other
Image caption Darganfuwyd y gynnau a'r bwledi pan aeth y swyddogion ar fwrdd y llong

Mae tri gwn saethu a bwledi wedi'u meddiannu gan swyddogion Llu'r Ffiniau wedi iddynt fynd ar fwrdd tancer olew yn Aberdaugleddau.

Darganfuwyd y gynnau a'r bwledi pan aeth y swyddogion ar fwrdd y llong, sydd wedi'i gofrestri yn Panama, i gynnal archwiliad rheolaidd.

Dywedodd aelodau'r criw, sy'n hanu o Tseina a De Korea, fod yr arfau tân yn eu meddiant i'w amddiffyn pe bai môr ladron yn ymosod arnynt yng Nghefnfor yr India.

Ond mae Llu'r Ffiniau yn rhybuddio pob llong sy'n hwylio mewn dyfroedd y Deyrnas Unedig fod rhaid iddynt ddatgan unrhyw arfau tân ar fwrdd y llong.

Meddiannwyd y gynnau am nad oedd y criw wedi datgan bod arfau tân ar fwrdd y llong ac am nad oedd yr arfau wedi'u storio'n briodol.

Dywedodd Alex Lawther, dirprwy cyfarwyddwr Llu'r Ffiniau yng Nghymru: "Hyd yn oed os oes gan griwiau rhesymau cyfreithlon i gadw arfau tân mae'n rhaid iddynt ddatgan bod y fath arfau yn eu meddiant pan mae'r llong yn dod i mewn i ddyfroedd y Deyrnas Unedig ac mae'n rhaid i'r criwiau storio'r arfau'n briodol."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.