Miloedd yn tyrru i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i hyd at 250,000 o gefnogwyr rygbi ddod i Gaerdydd dydd Sadwrn gyda Chymru yn gobeithio cipio'r Gamp Lawn.
Pe bai nhw'n llwyddiannus yna hwn fyddai'r drydedd Gamp Lawn mewn wyth mlynedd.
Ond cyn y gêm yn erbyn Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm bydd yna funud o dawelwch er cof am Mervyn Davies, cyn gapten Cymru a fu farw dydd Iau.
Ddoe bu baneri o amgylch y stadiwm yn chwifio ar hanner y mast.
Dywedodd is hyfforddwr Cymru Rob Howely eu bod wedi dweud wrth y chwaraewyr am farwolaeth Mervyn Davies ddoe.
"Mae'r chwaraewyr a'r rheolwyr yn cydymdeimlo gyda'r teulu
"Pan oeddwn i yn gapten ar Gymru fe wnes i gwrdd â Mervyn Davies ar sawl achlysur.
"Fe wnaeth o roi cryn dipyn o gyngor, roedd e'n ddyn diymhongar oedd yn deall popeth am y gêm."
Bydd yna funud o dawelwch cyn y gem sy'n dechrau am 2.45 pm a bydd y chwaraewyr yn gwisgo bandiau du.
I'r miloedd heb docyn ar gyfer y gêm bydd sgrin fawr yn cael ei osod yn Rhodfa Brenin Edward V11.
Mae Cyngor Caerdydd wedi galw ar gefnogwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan fod hynny'n bosib.
CYMRU: Halfpenny, Cuthbert, Davies, Roberts, North, Priestland, Phillips; Jenkins, Rees, Adam Jones, Alan Wyn Jones, Evans, Lydiate, Warburton (c), Faletau.
EILYDDION: Owens, James, Charteris, Ryan Jones, Lloyd Williams, James Hook, Scott Williams.
FFRAINC: Poitrenaud, Fofana, Rougerie, Fritz, Palisson, Beauxis, Yachvili; Poux, Servat, Attoub, Pape, Maestri, Dusautoir (c),Bonnaire, Harinordoquy.
EILYDDION: Szarzewski, Debaty, Pierre, Picamoles, Parra, Trinh-Duc, Buttin.
Dyfarnwr: Craig Joubert (De Affrica)