Llofruddiaeth: Apêl am wybodaeth
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn Sir Caergrawnt wedi gwneud apêl o'r newydd am wybodaeth ynglŷn â llofruddiaeth ffermwr o Gymru.
Cafwyd hyd i gorff Llywelyn Thomas, yn wreiddiol o Sain Ffagan ger Caerdydd, wedi i'r heddlu gael eu galw i'w gartref yn Chittering, Sir Gaergrawnt ar Ragfyr 18.
Credir bod Mr Thomas, 76 oed, wedi cael ei ladd wrth i rywun geisio lladrata o'i dŷ rhwng 9.30pm a 10pm ar Ragfyr 17.
Dywed yr heddlu eu bod yn awyddus i unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus i gysylltu â nhw.
"Gall unrhyw wybodaeth, hyd yn oed os yw'n swnio'n bitw neu yn amherthnasol, fod yn holl bwysig wrth ddod o hyd i'r sawl wnaeth hyn," meddai'r ditectif brif arolygydd George Barr.
Cafodd car Rover arian Mr Thomas gyda'r rhif cofrestru BJ51 CJV ei ddwyn o'i gartref a chafwyd hyd iddo yn ddiweddarach mewn pentref i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Caergrawnt, pentref Milton.
Roedd yna nam peirianyddol ar y car, a doedd dim modd ei yrru'n gyflym, meddai'r heddlu.
Cyflymdra
"Fe fyddai'r ffyrdd wedi bod yn brysur a byddai rhywun yn sicr o fod wedi sylwi'r car yma yn teithio ar gyflymdra araf," meddai'r ditectif brif arolygydd George Barr
Dywed yr heddlu fod tair oriawr - Seiko Bell-Matic, Tag Heuer a chopi o oriawr Breitling wedi eu dwyn o gartref Mr Thomas.
Canlyniad archwiliad post mortem oedd iddo farw o anafiadau i'w ben a'i wyneb.
Cafodd Mr Thomas ei eni ar gyrion Caerdydd ac roedd yn ffermio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr cyn symud i Loegr 12 mlynedd yn ôl.
Roedd yn ŵr gweddw gydag un mab.
Mae dyn 22 oed a dynes 21 wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth fel rhan o'r ymchwiliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011