Damwain farwol: Apêl am dystion
- Cyhoeddwyd

Yr heddlu wrth safle'r ddamwain
Bu farw un person ac anafwyd tri yn ddifrifol yn dilyn damwain ar ffordd yr A55 ger Abergwyngregin yng Ngwynedd.
Dywed yr heddlu fod dau gerbyd, Mitsubishi Shogun a fan Renault Master wen, yn y ddamwain ar y lon orllewinol am 4am ddydd Sul.
Yn ôl yr heddlu digwyddodd y ddamwain ger cyffordd Tal-y-bont.
Bu farw'r dyn yn safle'r ddamwain.
Dyw'r heddlu ddim yn credu bod y dyn yn byw yng nogledd Cymru.
Aed â'r tri arall i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Bu'r lon orllewinol ar gau wrth i'r heddlu yn ymchwilio i achos y ddamwain.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio ar dystion i gysylltu â nhw ar 101.