Wealdstone 0-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Wealdstone 0-0 Casnewydd (1-3 ar ôl dau gymal)
Mae Casnewydd wedi cyrraedd ffeinal yr FA Trophy ar ôl gem ddi-sgor yn erbyn Wealdstone.
Roedd y tîm o Gymru ar y blaen o 3-1 ar y cymal cyntaf ar Fawrth 10.
Fe wnaeth y gôl-geidwad Glyn Thompson a'r capten Gary Warren wneud cyfraniadau pwysig wrth sicrhau nad oedd y tîm o Gynghrair Ryman yn bygwth gôl Casnewydd yn ormodol.
Fe fydd Casnewydd nawr yn wynebu Caerefrog, sydd hefyd yn chwarae yng nghynghrair y Blue Square Bet yn y gêm derfynol yn Wembley ar Fai 12.
Hwn fydd y tro cynta i Gasnewydd chwarae yn stadiwm.
Wealdstone: North, McCubbin, Massey, Parker, Cronin, Smith, Brooks, O'Leary, Dean, Jolly, Chappell.
Eilyddion : Fitzgerald, Hicks, Hammond, Martin, Jones.
Casnewydd: Thompson, Warren, Yakubu, Foley, Knights, Rodgers, Jarvis, Hughes, Pipe, Porter, Harris.
Eilyddion: Buchanan, Hatswell, Rose, Evans, Swan.
Torf: 2,092.