Canu clodydd 'camp anhygoel'

Capten Cymru Sam Warburton gyda Thlws y Chwe Gwlad Image copyright Getty Images
Image caption Capten Cymru Sam Warburton gyda Thlws y Chwe Gwlad

Mae cyn chwaraewyr a chefnogwyr wedi bod yn canu clodydd tîm rygbi Cymru ar ôl iddyn nhw gipio'r Gamp Lawn wrth drechu Ffrainc o 16-9.

Hon oedd y drydedd Gamp Lawn o fewn wyth mlynedd a'r ail i'r hyfforddwr Warren Gatland.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yna seremoni swyddogol y tu allan i adeilad y Senedd nos Lun i ddathlu'r fuddugoliaeth.

Bydd cyfle i gefnogwyr wylio''r achlysur am 6pm pan fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cyflwyno Tlws y Chwe Gwlad i Gatland a'r capten Sam Warburton.

Hwn oedd y tro cyntaf i'r ddau dîm gwrdd ers Cwpan y Byd pan enillodd Ffrainc o 9-8.

Dywedodd Mr Jones fod gan Gymru arwyr newydd.

"Heddiw rydym yn croesawu cenhedlaeth newydd o arwyr rygbi - chwaraewyr sydd wedi sicrhau'r un llwyddiant â thimau mawr y gorffennol."

Daeth clod gan un o gyn chwaraewyr rhyngwladol Cymru, y cyn faswr Jonathan Davies.

Image copyright Getty Images
Image caption Alex Cuthbert yn curo'r amddiffyn ar gyfer unig gais y gem

"Gall y bechgyn yma gael eu cydnabod yr un mor llwyddiannus â thîm y 70au - mae tair Gamp Lawn ers 2005 yn ffantastig."

Un o'r rhai oedd yn aelod o dîm 2005 yw'r blaenwr Ryan Jones.

"Bydd hwn yn rhywbeth fe wnawn ni 'i gofio am flynyddoedd i ddod - mae pawb yn y garfan wedi cyfrannu at y llwyddiant."

Dywedodd Dan Lydiate fod y dorf o dros 74,000 wedi bod yn anhygoel.

"Mae fel chwarae gydag 16 o ddynion," meddai.

Roedd sôn bod hyd at 250,000 o gefnogwyr wedi tyrru i Gaerdydd ar gyfer yr achlysur.

Yr asgellwr Alex Cuthbert sgoriodd unig gais y gêm. Daeth pwyntiau eraill Cymru o esgid Lee Halfpenny.

Dyma'r ail Gamp Lawn yr hyfforddwr Warren Gatland.

"O fod yn ffefrynnau mae hwn yn dîm ifanc sydd wedi dangos aeddfedrwydd dan bwysau mawr," meddai.

Straeon perthnasol