Achub dau o'r harbwr

  • Cyhoeddwyd
Harbwr PorthmadogFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y ddau eu hachub o'r dŵr

Fe wnaeth criw bad achub a philismon achub dau o bobl o harbwr Porthmadog.

Roedd y dyn wedi mynd i drafferthion ar ôl iddo ef geisio achub y ddynes.

Aed â'r ddau i'r ysbyty yn dioddef effaith yr oerfel.

Fe wnaeth y plismon ddefnyddio dingi oedd wrth law er mwyn cyrraedd y ddau am 8.40 nos Sadwrn.

Dywedodd Peter Williams, swyddog gyda'r RNLI, fod y ddau yn lwcus fod yr heddwas yn yr ardal.

Roedd y plismon yn ei gar pan welodd y ddynes yn mynd i'r dŵr o Font Britannia.

Llwyddodd y plismon i ddefnyddio'r dingi er mwyn cyrraedd y ddau ac aros yno tan fod y bad achub yn cyrraedd.

Roedd y dingi wedi dechrau suddo.

Dywedodd Mr Williams fod y ddynes 45 oed yn anymwybodol erbyn i'r criw ei chyrraedd a bod y dyn 24 yn dioddef o effeithiau'r oerfel.

Aed â'r ddau i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Does dim rhagor o fanylion am eu cyflwr.