Caerdydd 0-0 Burnley
- Cyhoeddwyd

Fe fethodd Caerdydd a manteisio ar y cyfle i ddychwelyd i'r chwech uchaf ar ôl gêm ddi-sgor yn erbyn Burnley.
Hwn oedd y tro cyntaf y tymor hwn i Burnley, tîm sy'n nghanol y cynghrair, sicrhau gêm gyfartal oddi cartref.
Mewn hanner cyntaf difflach fe wnaeth David Marshall arbed oddi wrth Ross Wallace a Martin Paterson.
Bu'n rhaid aros tan yr 20 munud olaf i'r tîm cartref ddangos gwir ymdrech, ond fe fethwyd a phoeni Lee Grant, gôl-geidwad Burnley.
Daeth cyfle gorau Caerdydd i'r eilydd Rob Earnshaw, ond roedd ei beniad yn yr amser sy'n cael ei ganiatáu am anafiadau i'r ochr anghywir o'r postyn.
Caerdydd: Marshall, McNaughton, Taylor, Hudson, Turner, Whittingham, Cowie (Conway, 63' ), Lawrence, Gunnarsson (McPhail, 85' ), Miller (Earnshaw - 78' ), Mason.
Burnley: Grant, Trippier, Lafferty, Duff, Edgar, McCann, Wallace, Marney, Stanislas (Bartley, 73' ), Paterson (Austin, 84' ), Ings (McQuoid, 90' )