Damwain farwol: Arestio dyn
- Cyhoeddwyd

Roedd ffordd orllewinol yr A55 ar gau am gyfnod hir ddydd Sul
Cafodd dyn ei arestio mewn cysylltiad a gwrthdrawiad ar y ffordd lle bu farw un dyn a thri pherson arall wedi eu hanafu.
Dywedodd heddlu'r Gogledd bod dyn 27 oed wedi cael ei arestio ar Lannau Dyfrdwy ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Bu Mitsubishi Shogun a fan Renault Master mewn gwrthdrawiad ar ffordd orllewinol yr A55 ger Abergwyngregyn am 4:00am fore Sul.
Mae'r heddlu wedi gofyn i lygad-dystion eu ffonio ar 101.
Bu farw un dyn yn y fan a'r lle - y gred yw nad oedd yn byw yn lleol.
Cafodd tri pherson arall driniaeth yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor am anafiadau difrifol.
Bu'r lon orllewinol o'r A55 ar gau ar rai oriau er mwyn i'r heddlu gynnal eu hymchwiliad.
Straeon perthnasol
- 18 Mawrth 2012