Dathlu'r Gamp Lawn yn y Senedd
- Cyhoeddwyd

Bydd dathliadau'r Gamp lawn yn parhau ddydd Llun gyda digwyddiad yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Dechreuodd y cefnogwyr ddathlu yn syth wedi'r chwiban olaf yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc.
Sicrhaodd y tîm eu lle yn llyfrau hanes drwy gipio'r Gamp Lawn am y trydydd tro mewn mewn wyth mlynedd.
Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn ail-gyflwyno'r tlws i hyfforddwr y tîm, Warren Gatland, a'r capten Sam Warburton.
Bydd cefnogwyr yn medru gwylio'r seremoni, sy'n dechrau am 6pm gyda derbyniad preifat gan y Prif Weinidog a'r Llywydd.
Mae disgwyl i'r garfan ymgynull ar risiau'r siambr am tua 6:30pm cyn derbyn y tlws am yr eildro.
'Balchder'
Dywedodd Carwyn Jones fod y fuddugoliaeth yn dangos mai Cymru bellach "yw'r prif dîm rygbi yn hemisffer y gogledd".
"Mae'r fuddugoliaeth yma'n adlewyrchu talent a phenderfyniad y tîm gydol y gystadleuaeth.
"Hoffwn eu llongyfarch am ddod â balchder i'r genedl, ac ennill y Gamp Lawn am y trydydd tro mewn wyth mlynedd."
Bydd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, yn croesawu'r garfan i'r Senedd am dderbyniad swyddogol, sy'n cael ei gynnal gan y Cynulliad, Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.
Dywedodd Mrs Butler: "Dyma orchest wych gan ein tîm rygbi cenedlaethol.
"Mae ennill y Gamp Lawn deirgwaith o fewn wyth mlynedd yn cyfateb i orchestion cewri rygbi Cymru yn y 1970au.
"Mae'n dilyn y camau a gymerwyd yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd, a thrwy gynnal y derbyniad yma rydym yn eu llongyfarch ar ran cenedl falch iawn.
"Bydd hefyd yn rhoi cyfle i'r cyhoedd weld eu harwyr oherwydd mae croeso i bawb ddod i gymeradwyo'u llwyddiant y tu allan i'r Senedd."
'Pennod newydd'
Cafodd cefnogwyr, gan gynnwys plant ysgol lleol, eu hannog i gyrraedd yn gynnar.
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis: "Mae'r garfan wedi ysgrifennu pennod newydd bwysig yn hanes rygbi Cymru sy'n haeddu cael ei gydnabod a'i anrhydeddu.
"Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cynnal y digwyddiad er mwyn dangos cymaint y mae pobl Cymru yn gwerthfawrogi'r gamp.
"Rwy'n gwybod pa mor galed y mae'r garfan wedi gweithio er mwyn ennill y Gamp Lawn ac maen nhw'n haeddu'r gydnabyddiaeth."
Yn y cyfamser, dywedodd BBC Cymru bod 945,000 o bobl wedi gwylio'r gêm ar BBC1 Cymru ac S4C erbyn diwedd y gêm, 80% o'r gynulleidfa bosib.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2012