Undebau credyd: 13% yn fwy o aelodau
- Cyhoeddwyd

Mae aelodaeth 22 undeb credyd Cymru wedi cynyddu 13% i 58,000 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru mae'r arian mae pobl yn cynilo wedi codi £1.5m i £21 yn 2011.
Benthycodd yr undebau credyd £15m i aelodau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yn 2010 lansiodd Llywodraeth Cymru raglen gwerth £4m i helpu undebau credyd gefnogi pobl sy'n cael eu "heithrio yn ariannol".
Dyledion drwg
Dywed yr undebau credyd eu bod yn gallu helpu taclo gweithgareddau usurwyr gan gynnig dewisiadau diogel a fforddiadwy eraill.
Yng Ngogledd Cymru y llynedd cyfunodd pump o'r chwe undeb credyd i ffurfio Undeb Credyd Gogledd Cymru.
Mae benthyca'r undeb hwnnw wedi cynyddu mwy na 20% yn 2011 i £2m ymysg eu 10,000 o aelodau a'u 2,000 aelodau iau.
Dywedodd cadeirydd Undeb Credyd Gogledd Cymru, John Killion fod yr aelodaeth wedi cynyddu 12% ond bod dyledion drwg wedi cynyddu, er gwaethaf ymdrechion pobl.
"Mae pobl sydd wedi derbyn benthyciadau ac yn ddibynadwy wedi colli ei swyddi ac o ganlyniad maent wedi ei chael hi'n anodd," meddai.
Mae'r arian sy'n cael ei fenthyg i'r aelodau yn gyfran o'r arian sydd wedi'i gynilo ganddynt.
Dywedodd Mr Killion fod undebau credyd yn sefydliad dielw a'u bod yn gallu cynnig cymorth ariannol i bobl na fyddant fel arfer yn derbyn cymorth gan fanciau.
'Ceisio cynilo'
Dywedodd Bill Hudson, sy'n rheoli Rhaglen Gymorth Undebau Credyd Cymru, fod telerau da a mwy o ymwybyddiaeth o undebau credyd yn rhannol gyfrifol am y cynnydd mewn aelodaeth.
Ychwanegodd fod gwasanaethau undebau credyd yn cael eu rheoli gan wirfoddolwyr mewn adeiladau lleol fel canolfannau cymdeithasol yn ystod cyfnod pan mae banciau yn cau eu canghennau ar hyd a lled Cymru.
Yn ôl Mr Hudson mae agwedd pobl tuag at ddyled wedi newid yn ystod yr hinsawdd economaidd bresennol am eu bod yn ceisio bod yn gallach gyda'u harian yn hytrach na benthyg arian "o bob ffynhonnell dan haul" fel yr oedd pobl yn ei wneud tair neu bedair blynedd yn ôl.
"Erbyn hyn mae pobl yn meddwl nad yw dyled yn iach ac maen nhw'n ceisio cynilo rywfaint," meddai.
Straeon perthnasol
- 8 Ionawr 2012
- 11 Gorffennaf 2011
- 22 Gorffennaf 2009
- 17 Hydref 2003