Gatland yn targedu hemisffer y de
- Cyhoeddwyd

Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn targedu cewri hemisffer y de wrth i'w dîm ddathlu ennill y Gamp Lawn.
Gwelodd Gatland ei dîm yn sicrhau'r Gamp Lawn am yr eildro yn ystod ei deyrnasiad trwy guro Ffrainc o 16-9 yng Nghaerdydd.
Nid yw Cymru wedi curo Seland Newydd er 1952, wedi curo De Affrica ond unwaith, ac wedi colli chwech o'r saith gêm ddiwethaf yn erbyn Awstralia.
Tîm ifanc
Dywedodd Gatland: "Ein nod yw curo timau hemisffer y de yn gyson.
"Gan fod gennym dîm mor ifanc, rwy'n gobeithio y gallwn wneud hynny dros y blynyddoedd nesaf.
"Rydym wedi bod ar ei hôl hi mewn ambell gêm yn ystod y bencampwriaeth ac wedi dysgu sut i ennill mewn modd hyll - rhywbeth na fyddai wedi digwydd yn y gorffennol efallai.
"Rydym wedi derbyn bod yn ffefrynnau, a dyw hynny ddim wastad wedi bod yn sefyllfa gyfforddus i ni.
"Am dîm ifanc, maen nhw wedi ymdopi yn rhyfeddol o dda, ac rwy'n credu y gall hynny fod yn dda i ni dros y dwy neu dair blynedd nesaf."
Awstralia
Daw cyfle cyntaf Cymru i drechu un o dimau mawr hemisffer y de wrth iddyn nhw herio Awstralia mewn taith tair gêm ym mis Mehefin.
Ychwanegodd Gatland ei fod yn gobeithio y bydd Cymru'n parhau i ddangos nodweddion "gonestrwydd a gwaith caled" oedd yn sail i'w hymgyrch yng Nghwpan y Byd a'r llwyddiant ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
"Mae'r bois yma wedi bod yn destun balchder iddyn nhw'u hunain, Cymru a rygbi Cymru yn y modd y maen nhw wedi paratoi," ychwanegodd.
"Maen nhw'n broffesiynnol i'r carn, ac yn gwneud ein gwaith ni fel hyfforddwr yn hawdd gan eu bod yn gwneud mwy nag y byddwn ni'n ei ddisgwyl a mwy na sydd angen.
"Pan mae gennych chwaraewyr sy'n gwneud hynny ac yn edrych ar ôl eu hunain, mae'n gwneud i ni fel hyfforddwyr edrych yn dda."
Haeddiannol
Roedd hyfforddwr Ffrainc, Philippe Saint-Andrè, yn cyfadde' bod Cymru wedi ennill yn gwbl haeddiannol.
Dywedodd: "Llongyfarchiadau i Gymru - roedden nhw'n ei haeddu. Roedd hi'n gêm galed, ond rydym yn gwybod nad yw hi'n hawdd ennill y Gamp Lawn, ac maen nhw wedi ei gwneud hi.
"Mae ganddynt genhedlaeth ifanc o chwaraewyr a staff da ac rwy'n credu eu bod yn haeddu popeth.
"Nhw yw'r enillwyr, ac mewn chwaraeon dyna'r cwbl y mae pobl yn ei gofio, nid pwy bynnag oedd yn ail.
"Rydym yn drist ac yn siomedig - doedd hwn ddim yn berfformiad gwael, ond fe wnaethon ni orffen yn bedwerydd yn y Chwe Gwlad."
Straeon perthnasol
- 19 Mawrth 2012
- 18 Mawrth 2012
- 17 Mawrth 2012
- 19 Mawrth 2012
- 16 Mawrth 2012