Atal trenau wrth i lori daro pont
- Cyhoeddwyd

Mae gwasanaeth bws dros dro rhwng Shotton a'r Rhyl
Bu'n rhaid atal rhai gwasanaethau trenau wedi i lori daro yn erbyn pont rheilffordd yn Queensferry, Sir y Fflint.
Tarodd y lori yn erbyn y bont yn Ffordd yr Orsaf yn y dref.
Bu'n rhaid atal trenau sy'n defnyddio'r bont er mwyn symud y lori ac archwilio strwythur y bont.
Roedd rhai pobl wedi trydar bod damwain drên ar y safle ond mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud nad yw hynny'n wir.
Wrth i'r bont gael ei chau am gyfnod, does dim trenau cwmni Arriva ar y lein rhwng Shotton a'r Rhyl.
Mae gwasanaeth bws yn cludo teithwyr rhwng y ddau le.