Cyfadde trydar sylwadau ffiaidd

  • Cyhoeddwyd
Liam StaceyFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Mae Liam Stacey wedi pledio'n euog i gyflawni trosedd o dan y drefn gyhoeddus

Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyfaddef iddo wneud sylwadau ffiaidd â chymhelliad hiliol ar wefan Twitter am y chwaraewr pêl-droed Fabrice Muamba.

Cafodd Liam Stacey, 21 oed, ei arestio wedi i ddefnyddwyr eraill y wefan ddweud wrth yr heddlu.

Aed â'r bêl-droediwr i'r ysbyty wedi iddo gael pall ar ei galon mewn gêm rhwng ei glwb Bolton Wanderers a Tottenham Hotspur yng Nghwpan yr FA ddydd Sadwrn.

Mae mewn cyflwr difrifol iawn ond sefydlog yn yr ysbyty.

Roedd Stacey gerbron Ynadon Abertawe fore Llun lle plediodd yn euog i drosedd o dan y drefn gyhoeddus.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ar yr amod na fyddai'n mynd ar wefan Twitter na'r un wefan gymdeithasol arall tan iddo gael ei ddedfrydu yr wythnos nesaf.

Cwynion

Dywedodd yr erlynydd Lisa Jones: "Disgynnodd Fabrice Muamba ar y cae a'r gred oedd ei fod wedi marw."

Yn fuan wedyn dechreuodd Stacey wneud sylwadau ar y wefan. Cwynodd nifer am ei sylwadau a'i ymateb oedd mwy o sylwadau ffiaidd.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Derbyniodd heddlu ar draws Prydain gwynion am sylwadau Stacey

Clywodd y llys fod heddluoedd Prydain wedi derbyn cwynion am sylwadau Stacey ac, yn wreiddiol, fe geisiodd ymbellhau o'r sylwadau wrth honni bod rhywun wedi hacio ei gyfrif ar y wefan.

Yn ddiweddarach, ceisiodd ddileu'r dudalen ac fe gafodd ei arestio yn ei gartref yn Abertawe.

Pan gafodd ei holi, dywedodd Stacey, o Bontypridd yn wreiddiol, ei fod wedi meddwi tra'n gwylio'r gêm rygbi rhwng Cymru a Ffrainc.

'Ddim yn hiliol'

Dywedodd wrthynt: "Roeddwn i mewn bar pan glywais beth oedd wedi digwydd i Muamba. Wn i ddim pan wnes i'r sylwadau. Dydw i ddim yn hiliol ac mae nifer o'm ffrindiau o gefndiroedd diwylliannol gwahanol."

Roedd Stacey yn ei ddagrau bron wrth glywed y dystiolaeth am ei sylwadau yn y llys.

Clywodd y llys ei fod wedi anfon neges destun at gyfaill yn dweud: "Dwi wedi dweud rhywbeth na ddylwn i am Muamba ac wedi ateb rhai oedd wedi fy ateb. Mae'r heddlu ar fy ôl i nawr sydd ddim yn dda o gwbl."

Dywedodd yr ynadon y byddai Stacey'n cael ei ddedfrydu wedi i adroddiadau gael eu paratoi.