BBC Cymru Fyw

Corff: Arestio menyw

Published
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
image captionDaethpwyd o hyd i'r corff am 6.14am.
Mae'r heddlu wedi arestio menyw 33 oed ar amheuaeth o lofruddio wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod yn Abertawe.
Daethpwyd o hyd i gorff y dyn yn ardal Brynmill am 6.14am.
Cafodd ystafell ymchwilio ei sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Cocyd.
Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw'n chwilio am unrhywun arall.