Miloedd yn llongyfarch arwyr tu allan i'r Senedd

  • Cyhoeddwyd

Bu miloedd o bobl yn llongyfarch tîm rygbi Cymru ar ennill y Gamp Lawn mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd ym Mae Caerdydd nos Lun.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod 8,000 o bobl yno.

Mewn seremoni arbennig rhoddodd plant ysgolion lleol y tlws i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, cyn iddo yntau ei ailgyflwyno i'r garfan.

Sicrhaodd y tîm eu lle yn y llyfrau hanes drwy gipio'r Gamp Lawn am y trydydd tro mewn mewn wyth mlynedd ddydd Sadwrn.

Hyfforddwr y tîm, Warren Gatland, a'r capten, Sam Warburton, dderbyniodd y tlws.

'Balchder'

Dywedodd Mr Jones wrth BBC Cymru: "Beth sy'n bwysig yw bod Cymru wedi gwneud gwaith caled wrth ennill ddydd Sadwrn.

"Mae'r fuddugoliaeth wastad yn codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol ... beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n adeiladu ar y llwyddiant."

Wrth ailgyflwyno'r tlws, dywedodd: "Mae'r tîm hwn yn wych, y capten yn wych, yr hyfforddwr yn wych ... maen nhw wedi dod â chlod mawr i Gymru."

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Y Prif Weinidog yn ailgyflwyno'r tlws i'r capten

Dywedodd y capten fod y cefnogwyr wedi bod yn "hwb enfawr" iddyn nhw yn ystod yr ymgyrch.

Ynghynt roedd Mr Jones wedi dweud bod y fuddugoliaeth yn dangos mai Cymru bellach "yw'r prif dîm rygbi yn hemisffer y gogledd".

"Mae'r fuddugoliaeth yma'n adlewyrchu talent a phenderfyniad y tîm gydol y gystadleuaeth.

"Hoffwn eu llongyfarch am ddod â balchder i'r genedl ac ennill y Gamp Lawn am y trydydd tro mewn wyth mlynedd."

Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, groesawodd y garfan i dderbyniad swyddogol yn y Senedd.

"Mae hon yn orchest wych," meddai.

"Ac mae ennill y Gamp Lawn deirgwaith o fewn wyth mlynedd yn cyfateb i orchestion cewri rygbi Cymru yn y 1970au.

"Mae'n dilyn y camau a gymerwyd yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd, a thrwy gynnal y derbyniad yma rydym yn eu llongyfarch ar ran cenedl falch iawn."

'Pennod newydd'

Cyn y seremoni dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis: "Mae'r garfan wedi ysgrifennu pennod newydd bwysig yn hanes rygbi Cymru sy'n haeddu cael ei chydnabod a'i hanrhydeddu.

"Rwy'n gwybod pa mor galed y mae'r garfan wedi gweithio er mwyn ennill y Gamp Lawn ac maen nhw'n haeddu'r gydnabyddiaeth."

Yn y cyfamser, dywedodd BBC Cymru bod 945,000 o bobl wedi gwylio'r gêm ar BBC1 Cymru ac S4C erbyn diwedd y gêm, 80% o'r gynulleidfa bosib.