Cymro'n ôl adre'n ddiogel o Libya

  • Cyhoeddwyd
Gareth Montgomery-Johnson (left) and Nicholas DaviesFfynhonnell y llun, presser
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r ddau'n edrych ymlaen at gwrdd â'u teuluoedd

Mae newyddiadurwr o Gaerfyrddin, a gafodd ei arestio a'i garcharu yn Libya ar amheuaeth o ysbïo, wedi cyrraedd yn ôl i Brydain yn ddiogel.

Cadarnhaodd y Swyddfa Gartre fod Gareth Montgomery-Johnson bellach yn ôl gyda'i deulu.

Cafodd e a'i gyd-weithiwr, Nicholas Davies-Jones, eu rhyddhau gan y Llywodraeth yn Tripoli nos Sul ar ôl bod dan glo am bron i fis.

Roedd y ddau, oedd yn gweithio i orsaf Press TV o Iran, wedi ymddiheuro am fod yn Libya yn anghyfreithlon.

Ysbïo

Dywedodd y Swyddfa Dramor nos Sul: "Rydym yn croesawu rhyddhau dau newyddiadurwr o Brydain a gafodd eu cipio yn Libya yn ddiweddar.

"Mae swyddogion y Swyddfa Dramor yn darparu cefnogaeth gonsiwlar iddyn nhw fel yr ydym wedi ei wneud gydol y digwyddiad.

"Ac mae'r ddau'n edrych ymlaen at gael gweld eu teuluoedd yn fuan."

Cafodd y ddau eu cipio gan filisia Misrata yn Tripoli ar Chwefror 22.

Yn wreiddiol, cafodd y ddau eu cyhuddo o fod yn ysbïwyr ac roedd pryder ar un adeg y byddai'r ddau yn wynebu cyhuddiadau.

Yr wythnos ddiwethaf roedd y ddau mewn fideo yn ymddiheuro am fynd i mewn i Libya heb ganiatâd ond yn dweud eu bod yn cael eu trin yn dda.

Roedd teulu Mr Montgomery-Johnson a grwpiau hawliau dynol wedi lobïo am gael trosglwyddo'r ddau i ddwylo awdurdodau Libya ac fe ddigwyddodd hynny ar Fawrth 14.

'Cyhuddo'

Dywedodd gohebydd y BBC yn y Dwyrain Canol, Wyre Davies, fod y ffaith fod y ddau'n gweithio i orsaf deledu o Iran o bosib yn arwyddocaol.

"Yn y gorffennol, cafodd yr orsaf ei chyhuddo o fod o blaid Gaddafi, ac yn erbyn y chwyldro.

"Rwy'n credu mai dyna pam y cafodd y ddau eu cipio yn hytrach na phroblem fisas oherwydd mae llawer o newyddiadurwyr wedi mynd i mewn i'r wlad yn anghyfreithlon yn dechnegol."