Apêl dyn busnes o Gaernarfon yn methu

William O'Grady Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Fe gafwyd William O'Grady yn euog ym mis Rhagfyr

Mae apêl dyn busnes oedd yn herio dyfarniad blaenorol wedi methu yn y Llys Apêl yn Llundain ddydd Llun.

Ym mis Rhagfyr y llynedd fe gafwyd William O'Grady, 47 oed o Gaeathro ger Gaernarfon yn euog o waredu gwastraff yn anghyfreithlon.

Cafodd ddedfryd o flwyddyn o garchar gohiriedig a gorchymyn i wneud 300 awr o waith di-dâl yn y gymuned.

Fe gafodd ei wahardd rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni am y pum mlynedd nesaf.

Roedd ei gwmnïoedd, Gwynedd Skip Hire a Wm O'Grady Haulage & Plant Hire, hefyd yn euog o droseddau'n ymwneud â gwaredu gwastraff.

'Tystiolaeth newydd'

Ddydd Llun apeliodd y tri.

Clywodd y llys fod y troseddau ar ddau safle yn ardal Caernarfon, Bryn Awelon a Thyddyn Whisgin.

Dadleuodd cyfreithwyr O'Grady a'i gwmnïoedd fod "tystiolaeth newydd" yn gysylltiedig a'r hyn ddywedodd tyst yn yr achos gwreiddiol yn golygu bod y dyfarniad yn "anniogel".

Dywedodd y tri barnwr, Syr John Thomas, Mr Ustus Treacy a Mr Ustus Haddon-Cave, eu bod yn gwrthod y dadleuon.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.