Taro a ffoi: Merch yn yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Canolfan reoliFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Aed â'r ferch 12 oed i Ysbyty Tywysog Philip

Mae'r heddlu'n ymchwilio am nad oedd gyrrwr wedi stopio wedi i'w gar daro merch oedd ar ei ffordd i'r ysgol.

Aed â'r ferch 12 oed i Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli wedi'r ddamwain yn Heol y Twnnel yn y dre fore Llun.

Roedd anafiadau i'w phen a chafodd driniaeth oherwydd effeithiau sioc.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn chwilio am "ddyn byr a thew â gwallt llwyd oedd yn gyrru car arian".

Dylai unrhyw â gwybodaeth ffonio 101.