Elusen Tenovus yn ehangu ar gynllun 'corau canser'
- Cyhoeddwyd

Mae elusen canser wedi derbyn £1m i sefydlu corau ar hyd a lled Cymru i gleifion a'u teuluoedd.
Fe sefydlodd Tenovus eu côr cynta' i helpu cleifion canser ym Mhontypridd yn 2010, a'r nos oedd gweld sut y gallai canu helpu yn feddyliol yn ystod triniaeth.
Mae'r cynllun nawr wedi cael arian gan Y Gronfa Loteri Fawr i sefydlu 15 o gorau tebyg ar draws Cymru.
Dywedodd noddwraig y prosiect, y gantores o Sir Benfro Connie Fisher, y byddai'n helpu miloedd o bobl sydd â chanser.
Aeth y côr ym Mhontypridd ymlaen i berfformio i'r Dywysoges Anne tra roedd hi ar ymweliad â Chwmbrân.
Oherwydd llwyddiant y côr hwnnw, roedd Tenovus yn awyddus i ehangu ar y syniad.
Yn ôl yr elusen, gall cael diagnosis o ganser greu ystod eang o broblemau cymdeithasol ac emosiynol.
'Pwrpas newydd'
Dywedodd cleifion canser oedd wedi ymuno â'r côr ei fod yn eu helpu i daclo teimladau o unigrwydd ac iselder.
Does dim rhaid i'r aelodau fod yn gantorion da, yn ôl Tenovus, gan mai mwynhad yw'r prif nod.
Gall teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau rhai sydd wedi diodde' o ganser hefyd ymuno â'r corau.
Penderfynodd Angela Davies ymuno ar ôl iddi gael gwybod bod ganddi ganser ofaraidd nad oedd modd ei drin.
Dywedodd: "Rwyf yn mynd i'r côr pob wythnos gyda fy ngŵr Glyn a fy mab Josh.
"Mae wedi gwneud byd o wahaniaeth i fy mywyd ac wedi bod yn gymorth mawr.
"Mae wedi rhoi'r hyder i mi fynd mas o'r tŷ, cwrdd â theulu newydd a rhoi pwrpas newydd i mi.
"Dwi ddim yn teimlo bellach mod i'n ymladd y clefyd ar fy mhen fy hun."
Bydd y cwmni o Gaerdydd, Sing and Inspire, yn helpu i sefydlu'r corau dros y tair blynedd nesa', gyda chymorth Connie Fisher.
Meddai Ms Fisher: "Mae prosiect Tenovus yn un gwych, fydd yn helpu miloedd o bobl ar draws Cymru i ymdopi â chanser.
"Mae'n achos sy'n agos at fy nghanol gan fod gen i berthnasau sydd wedi diodde' o ganser ac mae cefnogi mentrau fel hyn yn ysbrydoliaeth."