Morgannwg yn arwyddo bowliwr cyflym

  • Cyhoeddwyd
Michael HoganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Michael Hogan wedi cael tymor gwych gyda thalaith Western Australia

Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi eu bod wedi sicrhau gwasanaeth y bowliwr cyflym o Awstralia, Michael Hogan, ar gytundeb tair blynedd.

Mae gan Hogan, 30 oed, basport Prydeinig, ac mae'n arwain bowlwyr talaith Western Australia. Yn dilyn cyfres o berfformiadau da, cafodd ei enwi yn nhîm sêr Cymdeithas Cricedwyr Awstralia.

Cafodd Morgannwg eu hannog i arwyddo Hogan gan ei gapten gyda'r dalaith, Marcus North, sydd hefyd yn ymuno â Morgannwg yn yr haf.

'Caffaeliad'

Dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Matthew Mott:

"Rydym wrth ein bodd yn medru cael gwasanaeth Michael am o leia'r tri thymor nesaf. Mae'n gricedwr talentog, ac fe fydd yn cryfhau ein bowlio.

"Mae'n amser gwych i'w arwyddo gan ei fod yn un o fowlwyr gorau Awstralia ar hyn o bryd - bydd yn gaffaeliad gwerthfawr.

"Bydd ei bresenoldeb yn ein galluogi i rannu'r baich ar ddiwedd y tymor, ynghyd â chaniatáu i'n bowlwyr ifanc i ddatblygu. Bydd chwarae ochr yn ochr gyda bowliwr aeddfed a sefydlog yn eu cynorthwyo wrth geisio cyrraedd y lefel nesaf.

"Mae Michael wedi creu enw da mewn cyfnod byr yn Awstralia, ac rydym yn ddiolchgar i Gymdeithas Criced Gorllewin Awstralia am gytuno i ganiatáu i Michael wireddu ei freuddwyd o chwarae ym Mhencampwriaeth y Siroedd."

Dywedodd Michael Hogan: "Rwyf wrth fy modd i fod yn ymuno gyda Morgannwg - mae wedi bod yn freuddwyd i mi chwarae yn y DU, ac rwy'n falch o fedru ymuno gyda sir sydd mor uchelgeisiol ac angerddol.

"Mae'r clwb yn gweithio'n galed i gael llwyddiant ar y maes chwarae, ac rwyf wrth fy modd i fedru bod yn rhan o'u cynlluniau at y dyfodol."