Cymru i herio'r Crysau Duon
- Cyhoeddwyd

Bydd Pencampwyr y Byd, Seland Newydd, ymhlith y timau fydd yn wynebu Cymru yng ngemau'r hydref yn Stadiwm y Mileniwm.
Bydd enillwyr y Gamp Lawn yn herio'r Crysau Duon yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 24, am 5:15pm.
Cyn y gêm honno, bydd Cymru'n croesawu Ariannin ar Dachwedd 10fed, cyn wynebu Samoa ar nos Wener, Tachwedd 16.
Yn dilyn yr ornest yn erbyn Seland Newydd, bydd Cymru'n cwblhau cyfres yr hydref gyda gêm yn erbyn Awstralia ar Ragfyr 1.
Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis:
"Mae Warren Gatland wedi dweud mai'r unig ffordd o wella yw chwarae yn erbyn y goreuon.
"Yn sicr rydym wedi ateb yr her yna'r hydref yma.
"Mae ein tîm cenedlaethol yn chwarae math o rygbi deniadol sy'n cyffroi'r cefnogwyr, ac rwy'n hyderus y bydd y gyfres hon yn atyniad mawr."
Enillodd Cymru'r Gamp Lawn am y trydydd tro mewn wyth tymor, gyda buddugoliaeth o 16-9 yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn.