Dwyn ceblau'n effeithio ar drenau
- Cyhoeddwyd

Mae amharu ar wasanaeth nifer o drenau i mewn ac allan o Gaerdydd oherwydd lladrad 300 metr o geblau'r rheilffordd.
Cafodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain eu galw i orsaf Gilfach Fargoed am 5:48am fore Mawrth am nad oedd signalau'n gweithio.
Mae swyddogion fforensig yn archwilio'r safle a pheirianwyr Network Rail yn ceisio adfer y gwasanaethau cyn gynted â phosib.
Cafodd dros 20 o wasanaethau eu heffeithio hyd yma.
'Aflonyddwch'
Dywedodd llefarydd ar ran yr Heddlu Trafnidiaeth: "Mae swyddogion yn ymchwilio i ladrad ceblau rheilffordd o ran o'r lein ger gorsaf Gilfach Fargoed.
"Wrth i'r ymchwiliad barhau, mae swyddogion ar y safle a hefyd yn ymweld â gwerthwyr sgrap lleol sy'n cynorthwyo'r heddlu gyda'u hymholiadau.
"Mae'r digwyddiad wedi achosi peth aflonyddwch i deithwyr ac i'r rhwydwaith rheilffordd gydag oedi sylweddol i wasanaethau trenau yn yr ardal.
"Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad neu a welodd weithgaredd amheus yn yr ardal ffonio Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800 405040, gan nodi'r cyfeirnod 46 ar 20/03/2012."
'Troseddau difrifol'
Dywedodd Mark Langman, cyfarwyddwr gyda Network Rail Cymru: "Mae lladrad ceblau ar lein Cwm Rhymni wedi arwain at daith anodd iawn a rhwystredigaeth i deithwyr.
"Mae 22 o wasanaethau i mewn ac allan o Gaerdydd wedi dioddef oherwydd y digwyddiad.
"Mae dwyn ceblau a mathau eraill o fandaliaeth yn droseddau difrifol gydag oblygiadau difrifol. Mae'r troseddwyr yn rhwystro teithwyr rhag cael y gwasanaeth y maen nhw'n ei haeddu ac oherwydd y gost anferth i'r diwydiant yn rhwystro gwelliannau i wasanaethau trenau.
"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i warchod y rheilffyrdd a byddwn ni'n parhau i weithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain a phartneriaid eraill i atal y lladron ac erlyn y rhai sy'n ymosod ar y rhwydwaith."
Straeon perthnasol
- 8 Mawrth 2012
- 29 Mai 2011
- 10 Mai 2011