Canolfan wledig ynghau o hyd
- Cyhoeddwyd

Bydd canolfan dreftadaeth wledig yng Ngwynedd yn parhau ynghau er gwaetha' ymdrechion i ddod o hyd i reolwyr newydd.
Agorwyd Canolfan Cywain yn Y Bala yn 2008 o dan reolaeth cyfarwyddwyr y safle ac Antur Penllyn.
Ar gost o dros £2 miliwn cafodd hen adeiladau ar Stad y Rhiwlas eu troi'n ganolfan fodern.
Y nod oedd rhoi hwb economaidd i bum plwy Penllyn a "denu pobl o bell ac agos".
Ond yn 2011 cyhoeddwyd y byddai'r ganolfan yn cau dros y gaeaf wrth i'r rheolwyr geisio dod o hyd i rywun arall i gymryd yr awenau.
'Rhan bwysig'
Ar y pryd dywedodd llefarydd ar ran y ganolfan: "Mae'r cyfarwyddwyr yn teimlo, efo'r adnoddau arbennig sydd yn y ganolfan, y gall hi chwarae rhan bwysig ym mywyd diwylliannol ac economaidd Y Bala a Phenllyn yn y dyfodol.
"Felly gan fod y tymor ymwelwyr yn araf ddirwyn i ben am eleni bydd y ganolfan yn cau dros y gaeaf."
Ond clywodd cyfarfod cyhoeddus yn Y Bala nos Lun fod ymdrechion wedi methu hyd yma ac y byddai'r ganolfan yn gorfod aros ynghau.
Er hynny, mae'r cyfarwyddwyr yn parhau i geisio dod o hyd i gorff newydd i reoli'r safle.
Straeon perthnasol
- 20 Medi 2011
- 6 Mai 2008