Corff: Menyw ar fechnïaeth

  • Cyhoeddwyd
Canolfan reoliFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Daethpwyd o hyd i'r corff am 6.14am fore Llun

Mae menyw 33 oed gafodd ei harestio ar amheuaeth o lofruddio wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Daethpwyd o hyd i gorff dyn 38 oed yn ardal Brynmill, Abertawe, am 6.14am fore Llun.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i "farwolaeth anesboniadwy".

Cafodd ystafell ymchwilio ei sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Cocyd ac mae archwiliad post mortem wedi cael ei gynnal.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 01792 562732 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol