Damwain ddifrifol: Heol ynghau

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf dânFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd diffoddwyr eu galw am 4:28pm.

Mae rhan o'r A483 ynghau wedi damwain ddifrifol rhwng tri cherbyd brynhawn Mawrth.

Roedd gwrthdrawiad rhwng lori, car a cherbyd gyriant pedair olwyn yng Nghei'r Trallwng ym Mhowys.

Cafodd dwy fenyw eu torri'n rhydd o'r car ac aed â nhw i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr.

Cafodd dyn ei dorri'n rhydd o'r cerbyd gyriant pedair olwyn cyn iddo gael ei gludo i'r ysbyty yn yr Amwythig.

Cafodd diffoddwyr o'r Trallwng a Threfaldwyn eu galw am 4:28pm.