'Sbiwyr': Drysu rhwng dwy iaith yn Libya

  • Cyhoeddwyd
Gareth Montgomery-Johnson and Nicholas DaviesFfynhonnell y llun, presser
Disgrifiad o’r llun,
Gareth Montgomery-Johnson a Nicholas Davies-Jones

Cafodd dau newyddiadurwr eu cipio yn Libya wedi i filisia ddrysu rhwng yr iaith Gymraeg a'r Hebraeg.

Cafodd Gareth Montgomery-Johnson o Gaerfyrddin a Nicholas Davies-Jones o Berkshire eu cipio gan Frigâd Misrata ger Tripoli fis diwethaf.

Roedd y ddau yn cario cyflenwadau meddygol â geiriau Cymraeg arnyn nhw.

Dywedodd Mr Montgomery-Johnson wrth y BBC: "Roedden nhw'n meddwl mai Hebraeg oedd hyn a'n bod ni'n sbiwyr o Israel."

Anghyfreithlon

Roedd y ddau wedi bod yn gweithio i orsaf deledu o Iran, Press TV, pan gipiodd y milisia nhw ar Chwefror 22.

Cafodd y ddau eu cyhuddo o fynd i mewn i Libya'n anghyfreithlon.

Ar Fawrth 14 fe gafodd y ddau eu trosglwyddo i ofal y weinyddiaeth gartref yn Libya wedi iddyn nhw ymddiheuro.

Hedfanodd y ddau yn ôl i Brydain nos Lun.

Dywedodd Mr Montgomery-Johnson: "Rydym yn falch o fod gartre' gyda'n teuluoedd oherwydd maen nhw wedi diodde' hefyd.

"Tra ein bod ni'n gaeth doedden nhw'n cael dim gwybodaeth o gwbl."

Barics

Cyn i'r ddau gael eu cipio roedden nhw wedi bod yn cael amser da ac wedi bod yn ffilmio'r cyngor a'r mosg lleol.

Ond tua dwy awr wedi iddyn nhw gael eu cipio sylweddolodd y ddau eu bod mewn trafferthion.

Roedden nhw'n cael eu cadw mewn barics milwrol yng nghanol y brifddinas, Tripoli.

Ychwanegodd Mr Montgomery-Johnson: "Roedd fy nhad - sy'n nyrs - wedi rhoi ychydig o ddeunyddiau meddygol i ni rhag ofn i ni fynd i drafferthion.

"Roedd ysgrifen Gymraeg ar rai o'r pecynnau ...

"Roedden ni'n cael ein cadw mewn ystafell fechan dri metr sgwâr - doedd yr amgylchiadau ddim yn dda."