Cau pwerdy a cholli 32 o swyddi
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni GDF Suez/International Power wedi cyhoeddi eu bwriad i gau pwerdy yn Shotton erbyn diwedd 2012.
Bydd 32 o weithwyr yn colli eu gwaith ar y safle sy'n cynhyrchu 210 MW o ynni a gwres.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni o Ffrainc: "Gan fod nifer o bwerdai nwy effeithlon iawn wedi cael eu comisiynu yn y DU ac yn wyneb effeithlonrwydd cymharol isel Shotton, nid yw'r ffatri bellach yn gystadleuol ym marchnad drydan gyfanwerthol y DU."
Mae'r safle yn Shotton yn cyflenwi ynni i'r Grid Cenedlaethol ar oriau brig.
Ychwanegodd y llefarydd y byddai'r safle'n parhau ar agor tan i'r cynlluniau i'w gau gael eu cwblhau ond eisoes mae undebau wedi mynegi siom am y penderfyniad.
'Ergyd'
Dywedodd Tony Hammond o undeb Prospect: "Mae'r newyddion hyn yn ergyd i'r unigolion dan sylw a hefyd oherwydd rôl Shotton wrth ddarparu ynni i ddiwydiannau lleol.
"Byddwn yn gweithio'n agos gyda GDF Suez/International Power i ystyried opsiynau ar gyfer y 32 o weithwyr cydwybodol a galluog fydd yn diodde' oherwydd y penderfyniad ac yn chwilio am gyfle i'w cyflogi mewn mannau eraill o fewn y grŵp lle mae hynny'n bosibl.
"Er ein bod yn derbyn bod strwythur y marchnadoedd ynni yn golygu nad oes cymhelliad ariannol i'r cwmni barhau ar y safle hwn, bydd yn golygu colli mwy o sgiliau o fewn yr ardal.
"Rhaid gofyn y cwestiwn 'Pwy fydd yn cyflenwi ynni ar oriau brig yn y dyfodol?' a byddwn yn annog yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd i ystyried gwobrwyo cynhyrchwyr sy'n rhedeg ffatrïoedd i gyflenwi oriau brig, neu wynebu gadael cwsmeriaid a diwydiannau i ysgwyddo'r baich wrth i'r galw fynd yn drech na'r cyflenwad."