Gobaith i ysgol gynradd sydd dan fygythiad
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr wedi gwrthdroi penderfyniad cabinet cyngor sir i gau ysgol gynradd yng Ngheredigion mewn cyfarfod arbennig o Gyngor Sir Ceredigion.
Bu'r cyngor yn ystyried argymhelliad un o'u pwyllgorau trosolwg a chraffu y dylai cynghorwyr argymell i'r cabinet beidio cau Ysgol Gynradd Dihewyd am y tro.
Ddydd Mawrth pleidlisiodd cynghorwyr 13-12 i'r cabinet ystyried cadw'r ysgol ar agor am y tro.
Cynhelir cyfarfod cabinet arbennig i drafod yr argymhelliad ddydd Llun Mawrth 26.
Ffrae
Dywed yr arghymelliad: "Bod y Cabinet yn cytuno i ganiatáu i'r ysgol aros ar agor tan ddiwedd Rhagfyr 2012, a pharhau i ariannu dwy swydd addysgu am y cyfnod hwnnw.
"Os yw nifer y disgyblion wedi cynyddu i 16 erbyn hynny, bod yr Ysgol yn cael blwyddyn arall i ganiatáu iddi sefydlogi cyn cael ei hadolygu."
Dywedodd Hywel Glyn Ifans, sy'n aelod o Grŵp Ymgyrchu Ysgol Gymunedol Dihewyd: "Rwy'n falch iawn o benderfyniad y cynghorwyr gan fod synnwyr cyffredin yn cael ei osod mewn cyd-destun democratiaeth.
"Fe fyddaf yn cael fy syfrdanu pe bae aelodau'r cabinet yn gwrthod yr argymhelliad hwn.
"Os na fydd y cabinet yn cymeradwyo'r argymhelliad fe fydd rhaid cwestiynu democratiaeth yng Ngheredigion."
Yr wythnos diwethaf penderfynodd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Diwylliant a Hamdden y cyngor sir alw i mewn penderfyniad y cabinet i gau'r ysgol.
Roedd mwyafrif yn y pwyllgor craffu o blaid gweld y cyngor yn gofyn i'r cabinet ystyried cadw'r ysgol ar agor am ddwy flynedd a hanner, tan fis Medi 2014.
Roedd y pwyllgor craffu yn ymateb i gais gan gymuned Dihewyd oedd yn gofyn iddyn nhw roi cyfle i Fwrdd Llywodraethol yr Ysgol i godi niferoedd y disgyblion dros rif trothwy'r cyngor (20) ar gyfer ysgolion cynradd.
Ym mis Chwefror bu ffrae ynglŷn â phenderfyniad y cabinet i gau'r ysgol am fod cyfarwyddwr addysg y cyngor wedi cyflwyno rhif anghywir cofrestr ysgol i'r cabinet wrth iddyn nhw benderfynu y dylid cychwyn y broses o'i chau.
'Ymysg y 10% uchaf'
Ar y pryd, dywedodd Cyngor Ceredigion i'r ffeithiau gael eu cywiro gan y cyfarwyddwr addysg, Eifion Evans, yng nghyfarfod y Cyngor ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.
Ychwanegodd y cyngor fod y rhif yn dal islaw 16 disgybl, fyddai wedi rhoi gwell cyfle i Ysgol Dihewyd, ger Aberaeron aros ar agor.
Ar ddechrau tymor yr Hydref 2011 nifer y plant yn yr ysgol oedd 15 ond erbyn mis Chwefror 2011 dim ond 13 plentyn oedd yn cael eu dysgu yno.
Bwriad y cyngor yw cau'r ysgol erbyn Rhagfyr 31 2012 a throsglwyddo disgyblion i'r ysgolion agosaf yng Nghilcennin, Felin-fach neu Llanwnnen.
Cafodd yr ysgol ei chanmol y tro diwethaf iddi gael eu harolygu gan y corff arolygu addysg, Estyn yn 2008.
Ar y pryd dywedodd Martin Cray a arweiniodd y tîm o arolygwyr: "Rwyf wedi arolygu dros 200 o ysgolion mewn 19 sir ar draws Cymru ac fe fyddwn i'n gosod Ysgol Dihewyd ymysg y 10% uchaf."
Straeon perthnasol
- 26 Chwefror 2012
- 24 Chwefror 2012
- 8 Rhagfyr 2011
- 5 Rhagfyr 2011