Dechrau trawsnewid adeilad

  • Cyhoeddwyd
Hen Neuadd y Dref Merthyr TudfulFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae Cymdeithas Dai Merthyr Tudful yn arwain y prosiect £8 miliwn i atgyweirio 'r adeilad

Mae'r prosiect atgyweirio fydd yn rhoi bywyd newydd i hen Neuadd y Dref Merthyr Tudful, a'i thrawsnewid yn ganolfan i'r diwydiannau creadigol wedi dechrau.

Mae Cymdeithas Dai Merthyr Tudful yn arwain y prosiect £8 miliwn i atgyweirio 'r adeilad 112 mlwydd oed, i'w ddefnyddio fel canolfan ddiwylliant a diwydiannau creadigol i'r gymuned leol, ac fel canolbwynt cymdeithasol i'r dref.

Cafodd Graham Construction eu penodi fel prif gontractwr yr adferiad, ac mae gan y cwmni dîm ar y safle ym Merthyr Tudful fel y gellir dechrau ar y gwaith ar unwaith.

Mae'r prosiect wedi derbyn cefnogaeth eisoes gan Raglen Blaenau'r Cymoedd Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw a Chyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful.

Cyngherddau cerddorol

Mae buddsoddiad gwerth £2 miliwn yr Undeb Ewropeaidd yn cwblhau'r pecyn cyllido sydd ei angen er mwyn i'r gwaith ddechrau ar yr adeilad cofrestredig Gradd II fu'n adfail am dros 10 mlynedd.

Pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd gan yr adeilad fydd wedi'i adnewyddu dros 2,500 metr sgwâr o arwynebedd llawr, gan gynnwys swyddfeydd, lleoliadau ymarfer, stiwdios ac ystafelloedd ar gyfer y celfyddydau gweledol, perfformio a'r cyfryngau.

Bydd yn cynnal digwyddiadau fel cyngherddau cerddorol, perfformiadau theatr a dawns ac arddangosfeydd.

Dywedodd Karen Dusgate, Prif Weithredwr Cymdeithas Dai Merthyr Tudful: "Rydyn ni'n teimlo bod hwn yn llwyddiant anhygoel - i sicrhau'r cyllid rydyn ni ei angen o'r diwedd fel ein bod mewn sefyllfa i ddechrau ar y cyfnod adeiladu.

"Bellach gall y gwaith cyffrous ddechrau.

"Caiff y bobl leol weld sut y byddwn ni'n trawsnewid yr adeilad gwych hwn fel ei fod yn gatalydd i adfywio canol y dref."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol