Caergrawnt 1-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed CasnewyddFfynhonnell y llun, Other

Caergrawnt 1-0 Casnewydd

Enillodd Casnewydd bwynt gwerthfawr yn eu gêm gyntaf yn Uwchgynghriar Blue Square Bet ers iddyn nhw gyrraedd rownd derfynol Tlws yr FA ddydd Sadwrn.

Mae'r Alltudion ymysg y timau sy'n brwydro i osgoi darostyngiad ar ddiwedd y tymor.

Ond maen nhw wedi codi i'r 18fed safle yn dilyn eu gêm gyfartal yn erbyn Caergrawnt nos Fawrth.

Aeth Caergrawnt ar y blaen yn Stadiwm yr Abaty ar ôl 24 munud pan rwydodd Josh Dawkin.

Cwrt cosbi

Roedd yr ymwelwyr yn credu eu bod wedi dod yn gyfartal bedair munud yn ddiweddarach pan sgoriodd Elliott Buchanan ond chaniataodd y dyfarnwr mo'r gôl.

Ond enillodd Casnewydd pwynt pan sgoriodd Andy Sandell gyda chic o'r smotyn bum munud cyn diwedd y gêm ar ôl i Kevin Roberts gyffwrdd â'r bêl yn y cwrt cosbi.

Caergrawnt: Naisbitt, Roberts, Jennings,Wylde, McAuley, Thorp, Jarvis, Berry, Gash, Pugh, Dawkin

Eilyddion: Jackson, Hudson, Eades, Tyriaki, Hughes.

Casnewydd: Thompson, Warren, Hughes, Rodgers, Sandell, Lee Evans, Porter, Knights, Jarvis, Buchanan Rose

Eilyddion: Darlow, Hatswell, Harris, Greening Reed.

Torf: 1,815