Tân: Llosgiadau difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi dioddef llosgiadau difrifol yn dilyn tân mewn ysgol ddawnsio yng Ngheredigion nos Fawrth.
Cafodd diffoddwyr tân eu galw i Ysgol Ddawnsio Aberteifi yn y dref tua 5.20pm.
Y gred yw bod y tân wedi dechrau mewn fflat ar ail lawr yr adeilad yn Park Place.
Bu'n rhaid i bedwar diffoddwr tân ddefnyddio cyfarpar anadlu cyn mynd i mewn i'r adeilad a diffodd y fflamau.
Dioddefodd dyn oedd y tu mewn i'r adeilad losgiadau i'w dwylo, i'w breichiau, i'w coesau a'i wyneb.
Aed ag ef i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr.
Dywed Gwasanaeth Tân Canolbarth a De Cymru nad oedd ganddynt unrhyw wybodaeth am beth achosodd y tân.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol