Camp arall i Dan Lydiate

  • Cyhoeddwyd
Dan LydiateFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Lydiate oedd chwaraewr gorau'r gêm yn erbyn Yr Alban a Ffrainc

Blaenasgellwr Cymru, Dan Lydiate, yw chwaraewr gorau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012.

Daeth y cyhoeddiad wedi i dros 30,000 o bobl bleidleisio, bron dwbl nifer y pleidleisiau yn 2011.

Roedd chwaraewyr Cymru yn amlwg ar y rhestr fer o 12, gan gynnwys Sam Warburton, Alex Cuthbert a Mike Phillips.

Wrth dderbyn yr anrhydedd, dywedodd blaenasgellwr y Dreigiau: "Mae'n syndod mawr a bod yn onest. Dwi wrth fy modd.

"Mae'n goron ar gystadleuaeth anhygoel i mi ac i Gymru.

"Roedd cael bod yn rhan o dîm talentog Cymru ac ennill y Gamp Lawn yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn yn anhygoel ond mae bod yn chwaraewr y gystadleuaeth hefyd yn gwbl anghredadwy.

25%

"Mae'n anrhydedd enfawr i ennill, yn enwedig o ystyried safon y chwaraewyr eraill ar y rhestr.

"Diolch i bawb a bleidleisiodd i mi. Mae'n golygu llawer iawn."

Cafodd Lydiate 25% o'r bleidlais gyda Jonathan Sexton o Iwerddon yn ail gyda 12% a'r Ffrancwr Sergio Parisse yn drydydd gyda 11.6%.

Lluniwyd y rhestr fer gan enillwyr chwaraewr gorau'r gêm ym mhedwar penwythnos cynta'r gystadleuaeth.

Cafodd Lydiate ei ddewis fel chwaraewr gorau gêm Cymru yn erbyn Yr Alban ar yr ail benwythnos, ac fe enillodd yr un wobr yn y gêm dyngedfennol yn erbyn Ffrainc y Sadwrn diwethaf.