Heddlu'n ymchwilio i ddamwain ddifrifol

Gorsaf dân Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Cafodd diffoddwyr eu galw am 4:28pm.

Mae'r heddlu'n ymchwilio i ddamwain ddifrifol ddigwyddodd rhwng tri cherbyd brynhawn Mawrth.

Roedd gwrthdrawiad rhwng lori, car a cherbyd gyriant pedair olwyn ar yr A483 yng Nghei'r Trallwng ym Mhowys.

Cafodd dyn yn ei dridegau ei dorri'n rhydd o'r cerbyd gyriant pedair olwyn ac aed ag e i'r ysbyty yn yr Amwythig mewn ambiwlans awyr.

Erbyn hyn, mae yn Ysbyty'r Frenhines Elisabeth yn Birmingham ac mae ei gyflwr yn sefydlog.

Cafodd dwy fenyw eu torri'n rhydd o'r car ac aed â nhw i'r ysbyty.

Cafodd diffoddwyr o'r Trallwng a Threfaldwyn eu galw am 4:28pm ac roedd yr heol ynghau tan hanner nos.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.