UEFA'n dweud 'Na' i Gymru
- Cyhoeddwyd

Ni fydd clybiau pêl-droed o Gymru sy'n chwarae yn Lloegr yn cael cynrychioli Cymru yn Ewrop drwy ennill Cwpan Cymru.
Gwnaed y penderfyniad gan UEFA, y corff sy'n rheoli pêl-droed Ewrop, ddydd Mercher ar ôl cais Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Hwn yw'r eildro i UEFA wrthod cais a'r tro diwethaf oedd yn 2001.
Mae nifer o glybiau o Gymru, gan gynnwys Abertawe, Caerdydd, Wrecsam, Casnewydd, Bae Colwyn a Merthyr yn chwarae yng nghynghreiriau Lloegr.
Ildio
Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gobeithio y byddai UEFA yn caniatáu i'r clybiau gystadlu yn Ewrop drwy ennill Cwpan Cymru a hynny o bosib ar yr amod eu bod yn ildio'u lle yng Nghwpan FA Lloegr neu Gwpan y Gynghrair.
Dywedodd Gianni Inafantino fod UEFA wedi gwrthod y cais.
"Yr egwyddor sylfaenol yw hyn - os ydych chi'n penderfynu chwarae yn Lloegr, fel mae'r clybiau hyn o Gymru yn ei wneud oherwydd rhesymau hanesyddol, y ffordd i gystadlu yn Ewrop yw drwy Loegr."
Ers 1995 dim ond clybiau Cynghrair Cymru sydd wedi bod yn gymwys i gynrychioli Cymru yn Ewrop.
Cafodd clybiau Cymru oedd yn chwarae yng nghynghrair Lloegr - Abertawe, Caerdydd, Wrecsam, Casnewydd, Bae Colwyn a Merthyr - eu gwahardd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i fod yn rhan o Gwpan Cymru 17 mlynedd yn ôl.
Ond gwahoddwyd y clybiau i gymryd rhan yn y gystadleuaeth y tymor yma.
Penderfynodd Abertawe, Caerdydd a Bae Colwyn na fydden nhw'n cymryd rhan.
Straeon perthnasol
- 13 Mawrth 2012
- 7 Tachwedd 2011