Cyllideb i 'achosi rhwyg cymdeithasol'

  • Cyhoeddwyd
Jane HuttFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Jane Hutt fod y gyllideb yn un "siomedig"

Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru yn honni bod cyflogau rhanbarthol yn "achosi rhwyg cymdeithasol" a does "dim synnwyr" i'r cynllun o ran economi Cymru.

Gall rhai adrannau Llywodraeth y DU ddechrau talu cyflogau rhanbarthol i'w staff pan mae'r cyfnod o rewi eu cyflogau yn dod i ben eleni.

Mae'r adrannau hyn yn cynnwys Yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r DVLA, sy'n cyflogi nifer o weithwyr Cymreig.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r cynllun gafodd ei gyhoeddi fel rhan o'r gyllideb ddydd Mercher.

'Rhwyg cymdeithasol'

Dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt: "Nid yw'r cynllun yn gwneud synnwyr economaidd oherwydd y bydd yn tynnu mwy o arian allan o'r economi.

"Nid yw'r cynllun yn gwneud synnwyr cymdeithasol - mae'n achosi rhwyg cymdeithasol."

"Y gwir yw bydd y cynllun yn rhannu gweithlu allweddol ein gwasanaethau cyhoeddus."

Yn yr hydref gofynnodd y Canghellor, George Osborne, i gyrff adolygu cyflogau annibynnol gyflwyno adroddiad erbyn yr haf am y posibilrwydd o sicrhau bod y sector cyhoeddus yn "ymateb yn well i farchnadoedd llafur lleol".

Mae cefnogwyr cyflogau rhanbarthol yn ofni bod cyflogau uwch y sector cyhoeddus yn ei gwneud hi'n anodd i fusnesau lleol gystadlu â'r sector hwnnw.

Ond mae gwrthwynebwyr Llywodraeth y DU yn honni y byddai Cymru ar ei cholled.

Yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yng Nghymru mae'r bwlch mwyaf rhwng cyflogau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Dywedodd y sefydliad fod menywod yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gallu ennill 18.5% yn fwy na'u cydweithwyr yn y sector preifat a bod dynion yn y sector cyhoeddus yn gallu ennill 18% yn fwy na'r rheiny sy'n gweithio yn y sector preifat.

Ddydd Mercher cyhoeddodd Y Swyddfa Ystadegau Gwladol ffigurau sy'n dangos bod incwm canolog blynyddol gweithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn £21,258 y llynedd - 19% yn fwy na chyflog y rheiny sy'n gweithio yn y sector preifat( £17,177).

Ffynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd George Osborne y bydd gwella ar dderbyniad ffonau symudol ar hyd yr A470

Newidiadau gwario

Yn ei Araith Gyllideb ddydd Mercher dywedodd y Canghellor, George Osborne, y byddai trothwy'r lefel isaf o drethi yn codi.

Bydd pobl ar y raddfa isaf yn dechrau talu trethi ar ôl ennill £9,205 yn lle'r trothwy presennol, £8,105.

Mae disgwyl i hyn olygu y bydd 42,000 yng Nghymru yn cael eu rhyddhau rhag talu trethi'n llwyr ac y bydd 1,100,000 ar eu hennill.

Ymysg y mesurau eraill gafodd ei gyhoeddi gan y Canghellor oedd y byddai Llywodraeth Cymru'n derbyn £11.7m yn ychwanegol dros gfnod o dair blynedd oherwydd newidiadau gwario yn Whitehall.

Cyfeiriodd yr araith at wella gwasanaeth ffonau symudol ar hyd yr A470 rhwng Llandudno a Chaerdydd.

Hefyd bydd £12m ar gael i ardal Caerdydd i ddarparu band llydan tra chyflym.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud y bydd lwfans busnes yn cael ei sefydlu ar gyfer ardaloedd menter, gan gynnwys un yng Nglannau Dyfrdwy.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol