Môn: Ffrae am gytundeb torri gwair ysgolion
- Cyhoeddwyd

Mae'r rhan fwyaf o brifathrawon ysgolion cynradd Ynys Môn wedi gwrthod rhoi allweddi'r ysgol na chaniatáu mynediad i dir yr ysgol i gwmni torri gwair o Loegr.
Mae'r prifathrawon yn anhapus fod y cytundeb i dorri gwair yr ysgolion cynradd wedi ei ddyfarnu i gwmni o'r tu allan i Gymru.
Hyd yn hyn Adran Priffyrdd Cyngor Gwynedd oedd yn gwneud y gwaith.
Cafodd cyfarfod cyffredinol blynyddol Ffederasiwn Prifathrawon Ysgolion Cynradd Ynys Môn ei gynnal nos Fercher.
Yn ystod y cyfarfod dywedodd y rheiny oedd yn bresennol nad oeddent yn hapus bod Cyngor Ynys Môn wedi dyfarnu'r cytundeb i gwmni Glendale Managed Services Cyf o Swydd Gaerhirfryn heb i'r cyngor ymgynghori â nhw na llywodraethwyr yr ysgol.
Mae'r Ffederasiwn yn anhapus am eu bod yn honni na fydd y cytundeb yn helpu'r economi leol ac y byddai'n peryglu swyddi pump o bobl leol sy'n gwneud y gwaith i Gyngor Gwynedd ar hyn o bryd.
'Tlotaf'
Dywedodd Einion Williams, cadeirydd y ffederasiwn, y dylai'r cytundeb wedi cael ei ddyfarnu i gwmni o Ynys Môn.
"Mae Ynys Môn yn un o siroedd tlotaf y Deyrnas Unedig ond mae'r Cyngor Sir wedi dyfarnu'r cytundeb i gwmni o Loegr," meddai.
Mae gan Ynys Môn tua 50 o ysgolion cynradd a phum ysgol uwchradd.
Y gred yw y gallai'r cytundeb i dorri'r gwair yn yr ysgolion hyn fod gwerth hyd at £200,000, er nad yw'r ffigwr yma wedi'i gadarnhau gan y cyngor.
Dywed y Ffederasiwn y byddant yn ceisio datrys yr anghydfod yn ystod cyfarfod â'r cyngor ddydd Iau.
Ond gallai'r ffederasiwn benderfynu anwybyddu'r cytundeb canolog a gofyn i dorwyr gwair lleol i gynnal a chadw tir ysgolion unigol.
Rheolau Ewrop
Mae Cyngor Ynys Môn wedi cadarnhau bod y cytundeb yn werth "oddeutu £200,000" ac yn cynnwys torri'r gwair mewn 49 o ysgolion cynradd, 5 ysgol uwchradd a 12 lleoliad arall gan gynnwys canolfannau hamdden ac adeiladau'r cyngor.
Dywedodd y cyngor bod deddfwriaeth Ewrop yn eu gorfodi i hysbysebu'r cytundeb ar draws Ewrop yn ogystal â phapurau lleol.
Roedd 18 o gwmnïau wedi dangos diddordeb yn y gwaith, a dywedodd y cyngor nad oedd ganddynt yr hawl i ffafrio cwmnïau lleol yn ystod y broses.
Roedd pump o gwmnïau ar Ynys Môn wedi dangos diddordeb, ac fe gawson nhw'u hystyried fel rhan o'r broses werthuso.
Dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod: "Er fod sicrhau cyflogaeth i bobl leol yn hynod bwysig i'r Awdurdod, rhaid glynu'n gaeth i ofynion Deddfwriaeth Ewropeaidd (OJEU).
"Mae hyn yn berthnasol i ddyfarnu cytundebau ar draws holl wasanaethau'r Awdurdod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2011