Tân: Achub tri o gartref gofal

  • Cyhoeddwyd

Mae diffoddwyr wedi achub tri o bobl yn dilyn tân mewn cartref gofal yn Sir y Fflint.

Roedd nifer o bobl eraill wedi ymadael â'r adeilad yn Ffordd New Brighton, Yr Wyddgrug erbyn i'r diffoddwyr tân gyrraedd y digwyddiad tua 6pm ddydd Mercher.

Cafodd gweithiwr gofal ac un o drigolion y cartref eu cludo i'r ysbyty yn diodde' o effeithiau anadlu mwg wedi iddynt gael eu hachub o ffenest llawr cyntaf yr adeilad.

Achubwyd y trydydd person gan ei dywys i lawr y grisiau o'r llawr cyntaf.

Cafodd y tân ei gyfyngu i ystafell gawod yn y cartref.

Anfonwyd tair injan dân o'r Wyddgrug, Wrecsam a Glannau Dyfrdwy i ddiffodd y fflamau.

Dywedodd Andy Robb o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Bydd eu bod yn cynnal ymchwiliad i achos y tân.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol