Caerdydd 2-2 Coventry

  • Cyhoeddwyd

Fe fethodd Caerdydd a manteisio ar gyfle euraid i ddychwelyd i'r chwech uchaf yn y Bencampwriaeth ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Coventry yn Stadiwm Caerdydd nos Fercher.

Byddai Caerdydd wedi codi i'r pedwerydd safle pe baen nhw wedi curo'r ymwelwyr ond mae'r canlyniad hwn yn golygu eu bod yn aros yn yr wythfed safle.

Yr Adar Gleision sgoriodd gôl gynta'r ornest wedi 17 munud pan sgoriodd Cody McDonald gôl yn ei rwyd ei hun yn dilyn cic gornel gan Liam Lawrence.

Methodd Garry McSheffrey gic o'r smotyn i'r ymwelwyr cyn i Coventry ddod yn gyfartal pan sgoriodd Jordan Clarke ar ôl 69 munud.

Aeth Caerdydd ar y blaen unwaith eto wedi 82 munud o'r gêm cyn i Oliver Norwood ddod â Coventry'n gyfartal unwaith eto wedi pum munud o amser ychwanegol.

Caerdydd: Marshall, McNaughton, Taylor, Hudson, Turner, Whittingham, Cowie, Lawrence (Earnshaw 73'), Gunnarsson, McPhail (Gestede 57'), Mason.

Coventry:Murphy, Keogh, Cranie (Hussey 87'), Clarke, Cameron, Clingan, Norwood, Thomas (Deegan 90'), McSheffrey, McDonald (Platt 70'), Nimely

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol