Dileu cyfyngiadau Chernobyl yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Defaid ac wynFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd cyfyngiadau eu gosod ar dros 5,000 o ffermydd ym 1986

Bydd cyfyngiadau ar dros dri chant o ffermydd gogledd Cymru a gafodd eu cyflwyno yn sgil trychineb Chernobyl yn 1986 yn cael eu codi ar Fehefin 1.

Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd y bydden nhw'n cynnal ymgynghoriad ar godi'r cyfyngiadau ar werthu a symud anifeiliaid o fewn ardal waharddedig.

Mae'r asiantaeth nawr wedi cyhoeddi y bydd y cyfyngiadau yn dod i ben.

Canlyniad yr ymgynghoriad oedd nad oedd y mesurau rheoli presennol yn gymesur â'r risg isel iawn sy'n bodoli bellach, ac na fyddai diddymu'r cyfyngiadau yn peryglu diogelwch y cwsmer.

Cyfyngiadau

Disgrifiad,

Nia Thomas yn holi Glyn Roberts sy'n ffermio yn yr aral waharddedig.

Bydd yr Asiantaeth yn argymell i weinidogion San Steffan a'r sefydliadau datganoledig y dylid diddymu'r gorchmynion cyfreithiol sy'n weddill o dan y Ddeddf Bwyd a Gwarchod yr Amgylchedd 1985 sy'n cyfyngu ar symudiadau defaid ac ŵyn ar draws y DU.

Un sy'n ffermio yn yr ardal waharddedig yw Glyn Roberts o Padog. Ar raglen y Post Cyntaf fore Iau, dywedodd:

"Yn amlwg roedd y cyfyngiadau mewn lle am resymau gwyddonol felly, ac roedd hynny'n bwysig oherwydd bod diogelwch y cwsmer yn hollbwysig.

"Rydyn ni wedi cael sawl cyfarfod gyda'r asiantaeth ac amryw o gyfarfodydd cyhoeddus, ac mae'r dystiolaeth wyddonol o roddwyd i ni yn bendant nad oes rheswm gwyddonol dros gadw'r cyfyngiadau."

Yn yr wythnosau a'r misoedd wedi'r ddamwain ar Ebrill 26, 1986, cafodd cyfyngiadau eu gosod ar dros 5,000 o ffermydd.

Dros y blynyddoedd mae'r nifer wedi gostwng i 327 yng Nghymru ac wyth yn Cumbria, Lloegr.

Golyga'r cyfyngiadau bod defaid ac ŵyn yn cael eu symud i lawr o dir uchel, fel bod mesurau ymbelydredd yn gostwng, cyn eu bod yn gallu cael eu gwerthu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol