Cwpan Rygbi 13 y Byd i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm y Mileniwm, CaerdyddFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Bydd seremoni a dwy gêm agoriadol y gystadleuaeth yn cael eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm

Bydd nifer o feysydd chwarae Cymru yn croesawu Cwpan Rygbi 13 y Byd yn 2013.

Cyhoeddwyd ddydd Iau mai yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd y bydd seremoni agoriadol y gystadleuaeth.

Ar y diwrnod mawreddog hwnnw fe fydd dwy gêm yn cael eu chwarae yn y stadiwm, sef Cymru yn erbyn Yr Eidal a Lloegr yn erbyn Awstralia.

Daeth hwb i'r Cae Ras yn Wrecsam hefyd gyda'r cyhoeddiad mai yno y bydd y gêm rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau yn cael ei chynnal, a bydd Wrecsam hefyd yn cynnal un o gemau rownd yr wyth olaf.

Fe fydd gêm arall Cymru yn eu grŵp - yn erbyn Ynysoedd Cook - yn cael ei chwarae ar y Gnoll yng Nghastell-nedd.

Mae pedair gwlad yn cynnal y gystadleuaeth ar y cyd, gyda gemau'n cael eu chwarae yng Nghymru, Lloegr, Ffrainc ac Iwerddon.

Pedwar grŵp

Mae 14 o wledydd yn y gystadleuaeth a fydd yn cael ei darlledu i 120 o wledydd o amgylch y byd, gyda'r timau mewn pedwar grŵp :-

  • GRŴP A : Awstralia, Lloegr, Fiji, Iwerddon;
  • GRŴP B : Seland Newydd, Ffrainc, Papua Gini Newydd, Samoa;
  • GRŴP C : Yr Alban, Tonga, Yr Eidal;
  • GRŴP D : CYMRU, Ynysoedd Cook, Yr Unol Daleithiau.

Gan mai dim ond tri thîm sydd yn y ddau grŵp olaf, bydd y timau yma hefyd yn chwarae un gêm yn erbyn tîm o'r grŵp arall, felly bydd Cymru'n wynebu'r Eidal, bydd yr Unol Daleithiau yn herio'r Alban a bydd Tonga yn chwarae yn erbyn Ynysoedd Cook.

Bydd y ddau dîm uchaf o'r pedwar grŵp wedyn yn mynd ymlaen i rownd yr wyth olaf.

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Bydd gwersyll hyfforddi Cymru yn ystod y gystadleuaeth hefyd yn Wrecsam

Canolfan

Daeth hwb arall i Wrecsam gyda'r newyddion mai yno y bydd gwersyll hyfforddi tîm Cymru ar gyfer y gystadleuaeth.

Dywedodd Lawrence Isted o Gyngor Wrecsam: "Mae yna gyffro yn yr ardal ers y cyhoeddiad y byddai Cwpan y Byd yn dod i Wrecsam.

"Rydym wrth ein bodd bod Cymru wedi dewis Wrecsam fel canolfan hyfforddi.

"Mae Wrecsam yn gartref i adnoddau chwaraeon o safon byd eang.

"Ynghyd â bod yn achlysur chwaraeon arbennig, bydd y gystadleuaeth yn dod â budd economaidd i'r ardal.

"Mae gan Wrecsam ddigon i'w gynnig o safbwynt gwestai, tai bwyta a bariau, ac fe fydd pob un yn cael hwb yn ystod y gystadleuaeth.

"Gall tîm yr Unol Daleithiau ddisgwyl croeso cynnes gan bobl Wrecsam a Gogledd Cymru.

"Rydym wrthi'n trefnu nifer o ddigwyddiadau cyffrous yn ystod, ac yn arwain tuag at, y gystadleuaeth, ac rydym am i bawb deimlo'n rhan o'r digwyddiad gwych yma."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol