Cynllun i leihau peryglon llifogydd yn Ystradgynlais
- Cyhoeddwyd

Mae pobl sy'n byw yn Ystradgynlais yn cael eu gwahodd i sesiwn alw i mewn i ganfod rhagor am fwriad Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i leihau peryglon llifogydd yn y gymuned.
Mae llawer wedi dioddef o lifogydd difrifol o Afon Tawe yn y gorffennol, yn fwyaf diweddar yn Heol Giedd ym 1998.
Ar ôl ymchwilio, mae'r Asiantaeth erbyn hyn wedi paratoi cynllun a fydd yn amddiffyn 228 o gartrefi a 12 o fusnesau yn yr ardal yn well rhag llifogydd.
Mae'n golygu ail godi rhannau o'r wal ar Heol Giedd, Gollege Row a Ffordd Pantyffynnon Road. Bydd wal llifogydd newydd hefyd yn cael ei adeiladu ar lan yr afon agosaf at Heol Glantawe a Pharc Tawe.
Staff arbenigol
Ar ôl cyflwyno cais cynllunio ym mis Mai, bydd y gwaith yn debyg o ddechrau'n ddiweddarach eleni.
Bydd manylion y cynllun arfaethedig i'w gweld yn y Neuadd Les, Brecon Road, Ysgradgynlais ddydd Llun 26 Mawrth rhwng 2.30pm a 6.30pm.
Bydd yr Asiantaeth yn gweithio gyda Chyngor Sir Powys ar y cynllun sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Meddai Phil Pickersgill, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru:
"Bydd ein cynigion yn golygu fod pobl mewn 240 o eiddo yn Ystradgynlais mewn llai o berygl llifogydd o Afon Tawe.
"Mae newid hinsawdd yn gwneud ein tywydd yn fwy anwadal, ac mae hynny'n debyg o olygu llifogydd amlach, yn yr haf ac yn y gaeaf. Drwy weithredu nawr, gallwn helpu lleihau peryglon lifogydd i bobl yn y dyfodol.
"Rwy'n annog pobl yn yr ardal leol i ymweld â'n sesiwn alw i mewn i ganfod rhagor ynghylch sut y bydd ein cynigion yn lleihau'u peryglon o lifogydd".
Bydd staff arbenigol o dîm peryglon llifogydd yr Asiantaeth yno i drafod y cynigion, ateb unrhyw gwestiynau a gwrando ar yr adborth oddi wrth y gymuned leol.
Gall unrhyw un ganfod a yw ei eiddo mewn perygl llifogydd, neu gofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd trwy ymweld ag Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru neu ffoniwch Floodline ar 0845 988 1188.
Straeon perthnasol
- 15 Chwefror 2012
- 29 Ionawr 2012
- 12 Ionawr 2012
- 8 Ebrill 2011
- 20 Ionawr 2009