Cymru'n troi'n hafan aderyn prin
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru'n troi'n hafan aderyn prin, yn ôl ymchwil cadwraethwyr.
Awgrymodd arolwg fod mwy o grugieir duon wedi cynefino yng Nghymru nag erioed o'r blaen.
Yn 2011 cafodd 328 o geiliogod eu cofnodi tra oedd 238 yn yr un safleoedd yn 2010.
Mae Prosiect Adfer y Grugiar Ddu gafodd ei lansio ym 1999 wedi cyrraedd ei nod bedair blynedd yn gynt na'r disgwyl.
Hebog llwydlas
Lansiwyd y prosiect wedi i'r cyfanswm o 264 o adar gwryw ym 1986 ostwng i 126 ym 1997.
Heb unrhyw gamau roedd ofnau y byddai'r rhywogaeth yn diflannu yng Nghymru erbyn 2010.
Mae RSPB Cymru wedi cydweithio â nifer o sefydliadau a thirfeddianwyr preifat er mwyn delio â phroblemau sy'n effeithio ar fioamrywiaeth yr ucheldir.
Dywedodd Dr Sean Christian, Pennaeth Cadwraeth RSPB Cymru: "Gall rheoli cynefinoedd ac adfer rhywogaethau allweddol fod er lles y dirwedd.
"Mae canlyniadau arolwg 2011 yn dangos bod rheoli'r dirwedd yn briodol a thywydd twym sych ym mis Mehefin dros nifer o flynyddoedd wedi arwain at adfer tymor hir y grugiar ddu yng Nghymru.
"Ac mae'r rhaglen yn dangos y gall rheoli cynefinoedd effeithio'n gadarnhaol ar rywogaethau eraill yr ucheldiroedd fel chwibanogl y mynydd, y grugiar goch, a'r hebog llwydlas.
Tyfiant trwchus
Mae'r grugiar ddu - sydd hefyd yn cael ei galw'n geiliog du neu geiliog du'r mynydd - yn un o'r rhywogaethau anoddaf i'w helpu i fridio oherwydd mae angen cynefin neilltuol.
Yn ogystal â thyfiant trwchus ar gyfer nythu ac atal rheibwyr, mae angen coedlannau aeddfed er mwyn cael bwyd dros y gaeaf a chorstiroedd lle mae pryfed ar gyfer y cywion.
Ar un adeg roedd y rhywogaeth yn gyffredin mewn sawl rhan, ym Meirionnydd, Ceredigion a siroedd Caerfyrddin, Trefaldwyn a Brycheiniog.
Erbyn hyn, dim ond yn ucheldiroedd gogledd a chanolbarth Cymru y mae ond mae'r cynnydd wedi codi gobeithion cadwraethwyr.
Straeon perthnasol
- 2 Tachwedd 2011
- 10 Ionawr 2011