Dathlu 100 mlynedd o ddysgu ffotograffiaeth
- Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Casnewydd yn dathlu 100 mlynedd o ddysgu ffotograffiaeth.
Fel rhan o'r dathliadau mae'r brifysgol yn cynnal arddangosfa o luniau o bobl Casnewydd o'r 1980au.
Mae'r brifysgol wedi ceisio dod o hyd i rai o'r bobl yn y lluniau a bydd cyfle i gwrdd â nhw mewn digwyddiad arbennig ar nos Iau 22 Mawrth.
Cynhaliwyd y dosbarth ffotograffiaeth cyntaf y brifysgol ym 1912 ac yn ôl Dr Paul Cabuts, Arweinydd Pwnc ar gyfer Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Casnewydd, mae natur y cwrs wedi newid llawer.
"Pan ddechreuodd y cwrs ym 1912 roedd yn llawer mwy technegol, er ei bod mewn ysgol gelf," meddai Dr Cabuts.
"Mae'n mynd mwy i faes y celfyddydau yn y 1960au pan fyddai pobl fel yr arlunydd David Hockney yn ymweld â'r brifysgol.
"Daeth i'r brig pan benderfynodd un o ffotograffwyr Magnum, David Hurn, dychwelyd i Gymru a sefydlu cwrs ffotograffiaeth dogfennol yng Ngholeg Addysg Uwch Gwent, fel yr oedd ar y pryd."
Roedd presenoldeb Hurn yn y coleg yn atyniad ar gyfer ymweliadau gan ffotograffwyr enwog megis Henri Cartier-Bresson and Don Cullen.
Ymunodd ffotograffwyr blaenllaw eraill fel Ron McCormick a John Charity â staff y coleg.
Dywedodd Dr Cabuts mai Prifysgol Casnewydd oedd un o nifer bach iawn o golegau oedd yn dysgu ffotograffiaeth ddogfennol yn y 1970au a bod ei enw da wedi tyfu.
"Rydym yn derbyn myfyrwyr o UDA, Japan, China - o'r byd i gyd.
"Mae pobl yn dod i astudio ffotograffiaeth yng Nghasnewydd oherwydd eu bod yn ei weld fel canolfan ragoriaeth," meddai.
Cynhelir yr arddangosfa o luniau o fywyd yng Nghasnewydd yn ystod y 1980au yng ngaleri'r brifysgol tan Ebrill 13.