Adfer adeilad mwyngloddio
- Cyhoeddwyd

Mae cyfle i'r cyhoedd gael golwg ar waith atgyweirio adeilad oedd ar un adeg gartref i beiriant i hen waith plwm yn Sir Ddinbych.
Fe adeiladwyd Clive Engine House, cwt injan Cernywaidd yn Nyserth, yn 1860.
Ynddo roedd silindr stêm a oedd yn gweithio pympiau dŵr ym Mwynglawdd Talargoch.
Fe roddwyd y gorau i weithio yno yn 1884.
Mae'n un o'r ychydig adfeilion sydd ar ôl o ddiwydaint oedd ar un adeg yn bwysig iawn yn yr ardal.
'Diogelu'r adeilad'
Dywedodd Fiona Gale, Archeolegydd Sir Ddinbych: "Roedd yna gyfle ffantastig i drwsio'r adeilad a'i adfer."
Bydd Ms Gale yn rhoi sgyrsiau am hanes yr adeilad fel rhan o'r diwrnod agored.
"Mae'r safle ar dir preifat, felly mae'n gyfle i bobl ymweld â'r adeilad am y tro cyntaf," meddai Ms Gale.
Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Adfywio:
"Dewch draw i weld beth sy'n digwydd i warchod ac i ddiogelu'r adeilad yma.
"Mae'n rhan bwysig o'n treftadaeth ac yn brawf o'r diwrnod caled o waith y rhai oedd yn gweithio yn y mwyngloddiau."
Straeon perthnasol
- 8 Mawrth 2010
- 30 Gorffennaf 2005
- 28 Hydref 2000