Darganfod corff dyn yn Afon Tawe
- Cyhoeddwyd

Mae corff dyn 52 oed wedi cael ei ddarganfod yn Afon Tawe.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i ran o'r afon ger Heol New Cut yn Abertawe am 8am ddydd Iau.
Dywedodd yr heddlu fod y farwolaeth yn anesboniadwy ond nad oedd yr amgylchiadau'n amheus ar hyn o bryd.
Mae teulu'r dyn a'r crwner wedi cael eu hysbysu.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol