Pensiynwyr 'ar eu colled'

George Osborne Image copyright Not Specified
Image caption Roedd y Canghellor wedi dweud na fyddai unrhyw bensiynwr yn diodde yn nhermau arian parod.

Mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn wedi dweud y bydd pensiynwyr 'ar eu colled' oherwydd newid y lwfans treth gyhoeddwyd yn y gyllideb.

Dywedodd Ruth Marks y byddai pobl oedrannus yn poeni am gynnydd mewn costau byw.

Roedd y Canghellor, George Osborne, wedi dweud na fyddai unrhyw bensiynwr yn diodde yn nhermau arian parod.

Ond dywedodd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi y byddai 4.4m o bobl yng ngwledydd Prydain yn colli £83 ar gyfartaledd mewn termau real erbyn 2013-14.

O Ebrill 2013 ymlaen bydd y swm y bydd pensiynwyr yn cael ei ennill yn ddidreth yn cael ei rewi.

Dywedodd Ms Marks: "Oherwydd y cynnig fe fydd y rhai sy wedi cynilo'n galed ar gyfer eu hymddeoliad yn talu £259 yn fwy o dreth bob blwyddyn hyd yn oed os yw'r incwm yn £10,500.

'Anodd'

"Yn aml, mae pobl oedrannus yn dweud eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd i dalu biliau a chadw'n dwym ... yn ystod cyfnod economaidd anodd.

"Y broblem yw y bydd mwy o galedi yn y dyfodol oherwydd cynnydd mewn costau bwyd a thanwydd."

Ynghynt honnodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, y byddai cyflog rhanbarthol yn "achosi rhwyg cymdeithasol".

Gallai rhai adrannau Llywodraeth y DU ddechrau talu cyflog rhanbarthol i'w staff pan mae cyfnod rhewi eu cyflogau yn dod i ben eleni.

Mae'r adrannau hyn yn cynnwys Yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r DVLA.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn erbyn y cynllun gafodd ei gyhoeddi yn Araith y Gyllideb.

'Rhannu'

Dywedodd Ms Hutt: "Nid yw'r cynllun yn gwneud synnwyr economaidd oherwydd y bydd yn tynnu mwy o arian allan o'r economi.

Image copyright BBC news grab
Image caption Dywedodd Jane Hutt fod y gyllideb yn un "siomedig"

"Nid yw'r cynllun yn gwneud synnwyr cymdeithasol. Y gwir yw bydd y cynllun yn rhannu gweithlu allweddol ein gwasanaethau cyhoeddus."

Yn yr hydref gofynnodd Mr Osborne i gyrff adolygu cyflogau annibynnol gyflwyno adroddiad erbyn yr haf am y posibilrwydd o sicrhau bod y sector cyhoeddus yn "ymateb yn well i farchnadoedd llafur lleol".

Yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yng Nghymru mae'r bwlch mwyaf rhwng cyflogau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.